Amdanom Ni
Cynnig lleol Compass Group UK & Ireland yw Compass Cymru. Credwn fod cenedl heb fwyd yn genedl heb fywyd a dyna pam ein bod wedi ymrwymo i gefnogi ein cleientiaid a’n cymunedau ledled Cymru. Rydym yn gwmni byd-eang gydag agwedd ranbarthol a dyna sy’n ein gwneud yn wahanol. Byddwn yn gweithio y tu ôl i’r llenni mewn digwyddiadau chwaraeon a hamdden, canolfannau milwrol pellennig, ac wrth galon ysgolion, ysbytai, cartrefi gofal,swyddfeydd ac ystafelloedd bwrdd cleientiaid.
Cymru am Byth
Gyda gwreiddiau cadarn drwy Gymru gyfan – mae gan Compass Cymru brofiad sylweddol o sawl sector arbenigol, yn cynnwys busnes a diwydiant, amddiffyn, gofal iechyd, addysg, chwaraeon a hamdden. Fel rhan o ddarparwr gwasanaethau arlwyo a chymorth blaenllaw ar raddfa fyd-eang, rydym yn deall pwysigrwydd datblygu ein darpariaeth gwasanaeth i ateb gofynion penodol pob cleient sefydliadol, tra’n sicrhau profiad gwych i’r cwsmer.
Partner dibynadwy
Datblygwyd Compass Cymru gyda Chymru’n greiddiol iddo, gan ddangos ein hymrwymiad i Gymru yn awr ac i’r dyfodol. Mae’r adnoddau sydd ar gael i ni yng Nghymru yn sylweddol. Mae ei chynnyrch toreithiog yn sicrhau ysbrydoliaeth i’n cogyddion a’n timau lleol talentog fedru llunio seigiau gwych sy’n faethlon gytbwys gan ddefnyddio dealltwriaeth ddofn o’n cwsmeriaid ynghyd â’n lletygarwch Cymreig twymgalon.
Timau sy’n Ennill
Crewyd rhwydwaith o dalent ac arloesedd a rennir gan Compass Cymru. Mae ein timau’n rhannu nodau a gwerthoedd cyffredin ac yn darparu gwasanaethau a chynhyrchion o ansawdd ym mha bynnag ran o Gymru y byddwn. Mae ein ffocws ar bobl wych, gwasanaeth gwych a chanlyniadau gwych. Mae’n sicrhau bod ein cwsmeriaid yn derbyn y gefnogaeth dydd-i-ddydd gorau posib gan eu tîm ar-safle a rydd iddynt dawelwch meddwl o wybod fod sawl arbenigydd wrth law y tu ôl i’r llenni.
Ein bwyd
Yn Compass Cymru, rydym yn gyrru argaeledd cynnyrch Cymreig drwy ein cadwyn gyflenwi – gan arddangos y gorau sydd gan Gymru i’w gynnig. Byddwn yn trafod gyda’n cyflenwyr er sicrhau effaith gadarnhaol a gweithiwn yn gyson i wella hylendid bwyd a safonau lles anifeiliaid. Mae ein bwyd yn dymhorol ac yn canolbwyntio ar fwydlenni sy’n gyforiog o blanhigion, gan greu economi bwyd mwy cyflawn a chylchol. Rydym yn hyrwyddo’n bositif ddewisiadau mwy seiliedig ar blanhigion i wella iechyd a lleihau effeithiau newid hinsawdd.
Ein Pobl
Yn ganolog i Compass Cymru mae tîm cydweithredol o arbenigwyr sy’n cwmpasu busnesau arbenigol a thimau cefnogaeth traws-sector y cwmni. Rydym yn dwyn ynghyd ein gwybodaeth gyffredinol a’n harbenigedd i arloesi a gwella perfformiad ein busnes yn gyson, ar draws yr holl sectorau, er cefnogi gofynion cleientiaid unigol. Mae ein rhwydwaith o ddoniau’n caniatáu i’n pobl ddatblygu a thyfu i greu llwybrau gyrfaol strwythuredig, a swyddi am oes.
Gwybodaeth a rennir
Rydym yn rhannu ysbrydoliaeth ac arfer gorau y gellir ei fabwyiadu a’i addasu’n chwim a hwylus i weddu i anghenion cwsmeriaid lleol. Mae ein rhwydwaith o bobl a pherthnasau’n golygu ein bod mewn lle da i ddarparu profiadau rhanbarthol dilys, a ategir gan ein harbenigedd rhyngwladol. Mae cleientiaid Compass Cymru’n ymddiried ynom i ddarparu’r holl gefnogaeth proffesiynol sydd ei hangen arnynt wrth roi gweithgareddau di-graidd ar gontract allanol, sy’n eu galluogi i ganolbwyntio ar reoli eu busnes.
Technoleg yn gyntaf
Rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu technolegau sy’n ei gwneud hi’n haws i wneud gwahaniaeth o bwys i brofiad y cwsmer. Yn awr, yn fwy nag erioed, mae gan ddatrysiadau technoleg ran arwyddocaol i’w chwarae o ran rhedeg ein busnesau’n ddiogel ac effeithlon. Rydym yn datblygu cysylltiadau gyda phartneriaid technoleg sy’n gallu integreiddio datrysiadau pwrpasol i’ch busnes yn chwim. Mae gwasanaethau rhag-archebu, mewn sedd, a chlicio a chasglu yn caniatáu i ni leihau unrhyw wrthdaro, lleihau amseroedd aros, cynyddu cyflymder, a gwella profiad y cwsmer.
Ein brandiau Compass
O arlwyaeth i reolaeth cyfleusterau a gwasanaethau glanhau arbenigol, mae ein brandiau Compass yn rhoi i fusnesau Cymru’r holl gefnogaeth sydd ei angen arnynt.